A new Wise in 5 briefing is published today highlighting disparities in language education policies for refugees and migrants across the UK and Ireland.
Wise in 5: Language Education for Refugees and Migrants presents a comparative analysis of policy frameworks, highlighting key gaps in ESOL (English for Speakers of Other Languages) provision, funding shortages, and the need for multilingual approaches to language education.
Produced by PolicyWISE, in collaboration with Sarah Cox, Mike Chick, Gwennan Higham, Mel Engman, Cassie Smith-Christmas, Sylvia Warnecke, Bärbel Brash, Verena Platzgummer, Melanie Cooke and James Simpson, this briefing provides a concise, evidence-based overview of the latest policy developments. It underscores that while some parts of the UK do have national integration and ESOL strategies, provision and access is inconsistent and lacking in all nations.
Key findings from the briefing include:
The briefing calls for a more coordinated, evidence-based approach to language education, ensuring refugees and migrants receive the support they need to integrate and thrive.
Efa Gruffudd Jones, the Welsh Language Commissioner said
“The Welsh Government's vision of being a Nation of Sanctuary is one I am proud of and is personal to me, as my grandmother was a refugee who learnt Welsh and made Wales her home.
I welcome the fact that the Government recognises the importance of the Welsh language in their ESOL policy for Wales, and I strongly believe that adding the Welsh language to the many languages that some migrants will already speak is key to supporting integration, creating communities and a sense of belonging. We have an opportunity to disseminate this good practice with the other nations that have minority and indigenous languages to share with migrants.
But more needs to be done in Wales. Until we succeed in offering the Welsh language to all those who make Wales their home, we will not succeed in our ambition to make Wales a real sanctuary.”
Professor Robert Dunbar, The University of Edinburgh said
‘’I warmly welcome this policy briefing. Language acquisition is essential for the effective integration of refugees and migrants. This briefing provides an excellent summary of current provision and recommendations for improvement, highlighting the need for a multilingual approach, given the special importance of the UK's various autochthonous languages.’’
Wise in 5 is a snapshot comparative guide to public policy issues across the nations of the UK and Ireland. It helps you to be PolicyWISE (Wales, Ireland, Scotland, and England) in 5 (it takes just five minutes to read). It includes a summary of the latest policy developments across the nations, as well as related research from PolicyWISE, The Open University and PolicyWISE’s university partners. The full briefing is available at https://www.policywise.org.uk/wise-in-5.
“Language education is fundamental to ensuring that everyone, including migrants, can be engaged and empowered citizens. But more needs to be done – by all governments across these islands. I’m delighted that PolicyWISE has been able to work with researchers from across the nations to publish this latest Wise in 5” said Dewi Knight, Director of PolicyWISE. “This briefing highlights the urgent need for greater investment, strategic coordination, and multilingual approaches to support inclusion across all the UK and Ireland.”
END
Briff newydd yn amlygu bylchau mewn addysg ieithoedd i ffoaduriaid ac ymfudwyr ar draws y Deyrnas Unedig ac Iwerddon
Mae briff Wise in 5 newydd yn cael ei gyhoeddi heddiw sydd yn amlygu anghyfartaleddau mewn polisïau addysg ieithoedd i ffoaduriaid ac ymfudwyr ar draws y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.
Mae Wise in 5: Language Education for Refugees and Migrants yn cyflwyno dadansoddiad cymharol o fframweithiau polisi, ac yn amlygu bylchau allweddol mewn darpariaeth ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill), prinder cyllid, a’r angen am ddarpariaeth amlieithog mewn addysg ieithoedd.
Wedi’i lunio gan PolicyWISE, mewn cydweithrediad gyda Sarah Cox, Mike Chick, Gwennan Higham, Mel Engman, Cassie Smith Christmas, Sylvia Warnecke, Bärbel Brash, Verena Platzgummer, Melanie Cooke a James Simpson, mae’r briff hwn yn darparu trosolwg cryno, sydd wedi’i seilio ar dystiolaeth, o’r datblygiadau polisi diweddaraf. Mae’n tanlinellu diffyg cysondeb yn y maes, ac er bod gan rai rhannau o’r Deyrnas Unedig strategaethau integreiddio ac ESOL cenedlaethol, mae’r ddarpariaeth a’r gallu i’w chyrchu yn anghyson ac yn ddiffygiol ym mhob ardal.
Ymhlith y canfyddiadau allweddol yn y briff, mae:
Mae’r briff yn galw am ymagwedd fwy cydlynus, wedi’i seilio ar dystiolaeth, i addysg ieithoedd, gan sicrhau y bydd ffoaduriaid ac ymfudwyr yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gael integreiddio a ffynnu.
Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg:
“Mae gweledigaeth Llywodraeth Cymru o fod yn Genedl Noddfa yn un rwyf yn ymfalchïo ynddi ac yn un sy’n bwysig i mi’n bersonol gan fod fy mam-gu yn ffoadur a ddysgodd y Gymraeg ac a wnaeth Cymru’n gartref iddi.
Rwy’n croesawu’r ffaith bod y Llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg yn eu polisi ESOL yng Nghymru, ac yn gwbl grediniol fod ychwanegu’r Gymraeg at y nifer o ieithoedd y bydd rhai mewnfudwyr eisoes yn eu siarad yn allweddol i gefnogi integreddio, creu cymunedau ac ymdeimlad o berthyn. Mae cyfle gennym i rannu’r arfer da hwn â’r gwledydd eraill sydd â ieithoedd lleiafrifol a chynhenid i’w rhannu â mewnfudwyr.
Ond mae angen gwneud rhagor yng Nghymru. Hyd nes y byddwn ni’n llwyddo i gynnig y Gymraeg i bawb sy’n gwneud Cymru’n gartref iddyn nhw, fyddwn ni ddim yn llwyddo yn ein huchelgais i wneud Cymru’n noddfa go iawn.
Ond mae angen gwneud mwy yng Nghymru. Hyd nes byddwn ni’n llwyddo i gynnig y Gymraeg i bawb sy’n gwneud eu cartref yng Nghymru, fyddwn ni ddim yn llwyddo yn ein dyhead i wneud Cymru yn wir noddfa.”
Dywedodd Yr Athro Robert Dunbar, Prifysgol Caeredin
“Rwy’n rhoi croeso brwd i’r briff polisi hwn. Mae caffael iaith yn hanfodol er mwyn i ffoaduriaid ac ymfudwyr gael eu hintegreiddio’n effeithiol. Mae’r briff yn rhoi crynodeb gwych o’r ddarpariaeth bresennol ac argymhellion ar gyfer gwella, gan amlygu’r angen am ddarpariaeth amlieithog, o ystyried pwysigrwydd arbennig ieithoedd brodorol amrywiol y Deyrnas Unedig.”
Mae Wise in 5 yn ganllaw cymharol sy’n rhoi cipolwg ar faterion polisi cyhoeddus ar draws cenhedloedd y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Mae’n rhan o fenter PolicyWISE (Cymru, Iwerddon, yr Alban a Lloegr) ac yn eich helpu i ddeall mwy am faterion polisi mewn 5 munud (yr amser mae’n ei gymryd i’w ddarllen). Mae’n cynnwys crynodeb o’r datblygiadau polisi diweddaraf ar draws y cenhedloedd, yn ogystal ag ymchwil cysylltiedig gan PolicyWISE, Y Brifysgol Agored a phartneriaid PolicyWISE mewn prifysgolion. Mae’r briff llawn ar gael yn Wise in 5 | policyWISE.
“Mae addysg ieithoedd yn hollbwysig er mwyn sicrhau y gall pawb, gan gynnwys ymfudwyr, fod yn ddinasyddion sydd wedi’u hymgysylltu a’u grymuso. Ond mae angen i fwy gael ei wneud – gan bob llywodraeth ar draws yr ynysoedd hyn. Rwyf wrth fy modd bod PolicyWISE wedi gallu gweithio gydag ymchwilwyr o’r holl genhedloedd i gyhoeddi'r Wise in 5 diweddaraf hwn” meddai Dewi Knight, Cyfarwyddwr PolicyWISE. “Mae’r briff hwn yn amlygu’r angen brys am ragor o fuddsoddi, cydlynu strategol, a darpariaeth amlieithog er mwyn cefnogi cynhwysiant ar draws y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.”
DIWEDD